Home
Biography
  - Photographs
  - Measurements
Repertoire
  - Concert
  - Opera
  - Oratorio
Reviews
Teaching
Contact

In Welsh...


GWION Y CYMRO
THE WELSH CONNECTION!


Er ei fod yn byw yn agos i Lundain mae Gwion yn Gymro i'r carn. Y mae yn nai i'r canwr enwog o Faesteg ag aeth i'r Amerig, Thomas Llyfnwy Thomas. Yn hannu yn wreiddiol o Gorseinon, ger Abertawe, cafodd Gwion ei flas gyntaf ar ganu o dan Myra Rees a'i Pharti Llwchwr. Pan symudodd y teulu i Landdewi Brefi yng Ngheredigion fe ddaeth o dan ddylanwad Ethel Jones yn Ysgol Uwchradd Tregaron.

Ar ol gadael ysgol dechreuodd ar yrfa mewn banc, yn symud o Ddolgellau i Lanrwst ag i Gaernarfon, ac yn canu mewn corau ble bynnag y bo! Penderfynodd yn y diwedd i ddilyn ei reddf ag astudio canu yng Ngholeg Cerdd Brenhinol ym Manceinion. Ar ddiwedd ei flwyddyn cyntaf fe ennillodd y Rhuban Glas (Gwobr Goffa David Ellis) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Machynlleth 1981.

Eisoes mae Gwion yn ganwr proffesiynol, yn gweithio ar draws Ewrop mewn operau a chyngherddau. Yng Nghymru y mae wedi canu gyda'r Cwmni Opera Cenedlaetlol (Figaro yn BARBWR SEFIL) a gyda cwmni Music Theatre Wales yn arbennig. Yn ddiweddar gyda MTW mae wedi perfformio Mr.Punch yn PUNCH a JUDY gan Birtwistle, rhan y Tad yn GREEK gan Turnage, a'r cyfreithiwr Huld yn THE TRIAL gan Glass. Hefyd gymerodd rhan y milwr yn STORI'R MILWR gan Stravinsky, eto gyda MTW, mewn cyfieithiad newydd i'r Gymraeg gan Gwyneth Glyn.

Hefyd yng Nghymru fe ganodd gyda cwmni Opera Box (yn yr opera TOWER gan Hoddinott) a chwmniau fel Opera Castell Nedd yng Nghraig-y-nos ag Opera Porth Tywyn. Y mae wedi canu ELEIAS gan Mendelssohn yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, ym mhafiliwn Corwen ac yn Yr Wyddgrug; a Requiem Brahms yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe. Fe ganodd y prif ran yn NOYE'S FLUDDE gan Britten yng Ngwyl Abertawe a WINTERREISE gan Schubert yng Ngwyl Machynlleth. Fe'i welwyd yn aml ar S4C.Fe ganodd Requiem Fauré yng nghyngerdd Cor yr Eisteddfod yn Llanelli. Eleni fe ganodd ELEIAS eto, y tro yma yn Gymraeg, yn Llanrwst. Hefyd, gyda cwmni MTW, fe ganodd rhan y Dŷn yn opera newydd Guto Puw, Y TŴR, yn seiliedig ar ddrama enwog Gwenlyn Parri. Fe welwyd yr opera ledled Cymru yn ogystal â Gŵyl Buxton.

Gan ei fod hefyd yn dysgu canu (yn y Conservatoire Brenhinol yn Birmingham, ac hefyd yn Ysgol Rygbi) y mae galw arno yn aml i fod yn feirniad. Droeon mae Gwion wedi bod yn brif feirniad lleisiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

© 2013 Gwion Thomas